Enwyd Claire Williams, Arweinydd Clinigol yng Nghartref Nyrsio Hengoed Court, yn Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2026 yng ngwobrau blynyddol RCN Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd neithiwr. Hwn oedd y 13eg tro i'r gwobrau gael eu cynnal.
Fel yr enillydd cyffredinol cyntaf erioed o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, mae llwyddiant Claire yn garreg filltir bwysig yn y gydnabyddiaeth gynyddol a roddir i nyrsio, arweinyddiaeth nyrsio ac arloesedd ar draws y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Drwy ei harweinyddiaeth dosturiol, ei hymroddiad, ei gwytnwch a'i hymrwymiad i welliant parhaus, mae Claire wedi trawsnewid y gofal sydd yn cael ei ddarparu i breswylwyr ei chartref gofal, ac wedi helpu pobl i gael triniaeth yn gynharach, osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, a chael aros yng nghysur a chynefindra eu cartref eu hunain lle bynnag y bo modd
Drwy weithio'n agos gyda chartrefi gofal, meddygfeydd ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae Claire wedi cryfhau'r cysylltiadau rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir. Mae ei gwaith wedi cefnogi ei thîm nyrsio i ddatblygu eu sgiliau hefyd ac i ddarparu'r safon uchaf o ofal, a chefnogi teuluoedd i deimlo'n fwy gwybodus ac yn fwy o ran yn y broses gwneud penderfyniadau. Mae hi hefyd wedi rhoi trefniadau mwy cyson ar waith i adnabod newidiadau yn iechyd preswylwyr ac ymateb iddynt.
Mae data a gasglwyd dros nifer o flynyddoedd wedi dangos effaith glir y gwaith hwn, gyda phreswylwyr yn cael ymyriadau clinigol yn gynharach a gostyngiad yn cael ei weld mewn derbyniadau i'r ysbyty. Mae Claire hefyd wedi datblygu ffordd newydd o reoli heintiau anadlol, sy'n galluogi preswylwyr i gael triniaeth brydlon yn y cartref gofal ac osgoi gorfod mynd i'r ysbyty.
Mae preswylwyr, teuluoedd a chydweithwyr ym maes iechyd wedi canmol proffesiynoldeb, arbenigedd a charedigrwydd Claire yn gyson. Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau preswylwyr. Drwy ei phenderfyniad i wella gofal a'i hangerdd dros nyrsio, mae Claire wedi gwella ansawdd bywyd nifer fawr o breswylwyr, gan ysbrydoli'r rhai o'i chwmpas i ddarparu'r safonau uchaf o ofal.
Meddai Prif Weithredwr RCN Cymru, Nicola Williams:
"Mae cyflawniad Claire yn arbennig o arwyddocaol gan mai hi yw'r enillydd cyntaf erioed o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol i ennill gwobr Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru. Mae'n adlewyrchu'r cyfraniad amhrisiadwy sydd yn cael ei wneud gan nyrsys ar draws pob lleoliad, a'r pwysigrwydd o gydnabod yr arweinyddiaeth, yr arbenigedd a'r arloesedd sy'n gwella gofal i bobl ar draws Cymru."
"Mae gwaith Claire yn adlewyrchu ei hangerdd diwyro dros nyrsio a'i hymroddiad llwyr i'r bobl mae hi'n gofalu amdanynt. Mae ei mentrau arloesol yn enghraifft o'r hyn y gall nyrsys ei gyflawni pan fyddant yn cyfuno eu harbenigedd proffesiynol â pharodrwydd i herio ffyrdd traddodiadol o weithio a dod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu gofal sy'n gwella ansawdd, diogelwch a chanlyniadau."
"Mae gwaith Claire ym maes profion ar y safle yn enghraifft arbennig o dda o sut y gall nyrsys nodi problem, adeiladu partneriaethau a datblygu ateb ymarferol sy'n helpu pobl i gael y gofal cywir, yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir. Mae llwyddiant Claire yn ein hatgoffa o'r cyfraniad amhrisiadwy sydd yn cael ei wneud gan nyrsys bob dydd, nid yn unig drwy'r gofal maen nhw'n ei ddarparu ond hefyd, drwy eu creadigrwydd, eu gwytnwch a'u penderfyniad i wella gwasanaethau."
Noddwyd gwobr gyffredinol Nyrs y Flwyddyn gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Dewiswyd Claire fel enillydd o blith 13 enillydd categori yn y seremoni, gan gydnabod ei chyfraniad at ofal cleifion, arweinyddiaeth nyrsio a datblygiad gwasanaethau.
DIWEDD.
Nodiadau i Olygyddion
Mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru yn dathlu arloesedd a rhagoriaeth ar draws y proffesiwn nyrsio, gan gydnabod ymroddiad, cyflawniadau ac effaith eithriadol y gymuned nyrsio gyfan ar draws Cymru. Mae'r nyrsys, bydwragedd, myfyrwyr nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd a gafodd eu henwebu wedi dangos angerdd arbennig i'w proffesiwn ac yn cynrychioli'r gorau o ran gofal, gwybodaeth ac arbenigedd clinigol.
Cynhaliwyd y seremoni gan y darlledwr teledu a radio Jason Mohammad yng Ngwesty'r Holland House By Sunday, Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys areithiau gan Brif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr RCN, Nicola Ranger; Cadeirydd Bwrdd RCN Cymru, Jackie Davies; a Chyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru, Nicola Williams. Roedd cyfanswm o 14 categori yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys Gwobr Cyflawniad Oes a Gwobr Nyrs y Flwyddyn Cyffredinol Cymru, oedd yn cydnabod ac yn dathlu ehangder ymarfer nyrsio ar draws Cymru.
Yr enwebeion ar y rhestr fer:
Gwobr Cyflawniad Oes
Enillydd: Angela Wood, Cyn Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwobr Nyrsio'r Sector Annibynnol
Enillydd: Claire Williams, Arweinydd Clinigol Cartref Nyrsio Hengoed
Yn ail: Nerys Rhys-Hawas, Dirprwy Reolwr Cartref Gofal Pen y Bont, ivolve Care and Support.
Gwobr Nyrsio Arbenigol
Enillydd: Rhian Smith, Uwch Nyrs Arwain, Tîm Gofal Lliniarol Ysbyty, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Yn ail: Samantha Barrett, Nyrs Glinigol Arbenigol Hematoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru
Enillydd: Cerian Llewellyn Pennaeth Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Yn ail: Matt Townsend Darlithydd mewn Addysg Gofal Iechyd, Prifysgol Aberystwyth
Gwobr Nyrs Gofrestredig – Iechyd Meddwl
Enillydd: Cristie Davies Uwch Ymarferydd Nyrsio, Gwasanaeth Asesu'r Cof Casnewydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Yn ail: Aimee Williams Uwch Ymarferydd Nyrsio yn y Tîm Diagnostig - Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Enillydd: Kevin Roberts Ymarferydd Ymddygiadol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Yn ail: Janet Needham, Cynorthwyydd Gofal Iechyd Cymunedol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Gwobr Gwella Iechyd Unigolion a'r Boblogaeth
Cyd-enillwyr: Tracy Evans Arweinydd Nyrs Arbenigol Clinigol ar gyfer Oedolion Digartref a Bregus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rebecca Morgan, Arweinydd Tîm - Gwasanaeth Clinig Clwyfau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Yn ail: Samantha Matthews Pennaeth Nyrsio – Tîm Haint Cysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Phresgripsiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwobr Ymchwil, Arloesedd a Digideiddio ym Maes Nyrsio
Enillydd: Holly Morgan Nyrs Arbenigol Glinigol Afferesis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Yn ail: Bethan Bigham Uwch Nyrs Gofal Iechyd Parhaus a Diogelu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Gwobr Addysg Nyrsio
Enillydd: Karen Morgan BEM Arweinydd Cenedlaethol Lymffoedema - Addysg a Chlinigol, Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Yn ail: Sam Adams Darlithydd addysg Gofal Iechyd ac arweinydd efelychu Prifysgol Aberystwyth
Gwobr Myfyriwr Nyrsio
Enillydd: Hayley Roberts (Hayley Roberts) Myfyriwr NyrsioPrifysgol Wrecsam
Yn ail: Hannah Jones Myfyriwr Nyrsio Prifysgol Aberystwyth
Gwobr Nyrs Gofrestredig (Plentyn)
Enillydd: Laura-Kate Williams Nyrs Glinigol Arbenigol Pediatrig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Yn ail: Ingrid Phillips, Nyrs Bediatrig – Cyflyrau Iechyd Tymor Hir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwobr Nyrs Gofrestredig (Oedolyn)
Enillydd: Diana Mehrez Uwch Nyrs Lymffoedema a Therapïau’r Frest, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Yn ail: Cleo Richards Rheolwr Ward, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Gwobr Nyrs Gofrestredig – Anableddau Dysgu
Enillydd: Lisa-Marie Hassall Nyrs Cyswllt Iechyd Anabledd Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Yn ail: Yr Athro Neil James Nyrs Ymgynghorol Anabledd Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Gwobr Nyrsio Cymunedol a Gofal Sylfaenol
Cyd-enillwyr: Samantha Price a Ceri Rees, Nyrsys Dosbarth Arweiniol, Bwrdd Addysgu Iechyd Powys
Yn ail: Josie Collins [Josie Collins] Uwch Nyrs, Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro.