
Nyrsio Cryfach, Cenedl Gryfach
Mae ein haelodau yn arbenigwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym wedi ymrwymo i roi gofal o’r ansawdd gorau i’n cleifion ac i wella iechyd pobl Cymru.
Mae'r Maniffesto hwn yn nodi'r polisïau allweddol a fydd, os cânt eu gweithredu gan Lywodraeth nesaf Cymru, yn gwella iechyd pobl Cymru a'r gofal a roddir iddynt.
Mae ein haelodau yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio gwella gwasanaethau gofal, gan gynnwys pwysau ariannol.
Yn y Maniffesto hwn, rydym yn darparu argymhellion polisi a fydd nid yn unig yn sicrhau canlyniadau gwell, ond y gellid eu gweithredu'n ymarferol gyda'r dewisiadau polisi, deddfwriaethol a chyllid sydd ar gael i Lywodraeth newydd.
Fodd bynnag, i'r Coleg Nyrsio Brenhinol, does dim lle i gyfaddawdu o ran rhoi gofal diogel ac effeithiol. Nid oes dim yn cymharu â gofal nyrs gofrestredig.
Rydym yn falch o gyflwyno ein Maniffesto ar gyfer 2026. Byddem yn annog pob gwleidydd yng Nghymru, beth bynnag fo'i blaid, i ddarllen y ddogfen hon ac ystyried ei chynnwys. Trwy wrando ar syniadau nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd, byddwn yn gallu gweithio gyda'n gilydd i wella iechyd pobl Cymru a diogelu gwasanaethau gofal iechyd.
Jackie Davies
Cadeirydd Bwrdd Cymru
Helen Whyley
Cyfarwyddwr, RCN Cymru


1. Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau
Mae gofal mewn coridorau wedi dod yn gyffredin ac wedi’i ymwreiddio yn GIG Cymru, gan gyflwyno risg newydd ddifrifol i fywydau cleifion.
Mae “gofal mewn coridorau” yn golygu gofalu am gleifion mewn mannau lle nad yw gofal diogel yn bosibl – coridorau, ond hefyd ardaloedd storio, ystafelloedd aros, swyddfeydd, meysydd parcio, hyd yn oed toiledau.
Mae byrddau iechyd yn defnyddio’r mannau hyn i ymdopi â’r pwysau cynyddol ar adrannau brys.
Ond mae hyn yn rhoi cleifion mewn perygl:
- pan fo angen help ar glaf i anadlu, ond mae'r ocsigen a'r sugnedd eisoes yn cael eu defnyddio gan rywun arall
- pan nad oes digon o le i ddefnyddio offer achub bywyd mewn argyfwng
- pan nad oes digon o nyrsys ar gael i fonitro a thrin cleifion yn ddiogel
- pan fo cleifion yn mynd trwy archwiliadau personol heb unrhyw breifatrwydd
- pan fo gorlenwi yn atal staff glanhau rhag cadw'r ardal yn hylan - ac yn rhwystro allanfeydd tân.

Beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud?
- Ymrwymo i gyhoeddi data gofal mewn coridorau gan fyrddau iechyd bob mis.
- Cyfarwyddo GIG Cymru i oedi'r gostyngiad mewn gwelyau ysbyty a chomisiynu dau adolygiad cenedlaethol, i archwilio capasiti gwelyau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac ysbytai ar wahanol lefelau o ddibyniaeth cleifion.
- Ymrwymo i sefydlu gofal a ddarperir i glaf mewn cadair am fwy na 24 awr fel "digwyddiad byth" o fewn 6 mis.
- Cytuno ar y set ddata gofal mewn coridorau a chyhoeddi'r set ddata gyntaf.
- Cyhoeddi'r ddau adolygiad cenedlaethol o gapasiti gydag argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru.
- Gofal a ddarperir i glaf mewn cadair am fwy na 24 awr yn cael ei sefydlu fel "digwyddiad byth".
- Cynnydd yn nifer yr uwch benderfynwyr clinigol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys 24/7 i weld a thrin cleifion ac ar wardiau ysbytai dros y penwythnos i ganiatáu i gleifion gael eu rhyddhau.
- Cynnydd yn nifer y lleoedd addysgol wedi'u comisiynu ar gyfer Nyrsys Ardal (a nyrsys sydd â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol).
- Dangos cynnydd yn nifer y Nyrsys Ardal cyfwerth ag amser llawn (a nyrsys sydd â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol) sydd wedi'u cyflogi gan y GIG.
"Rydyn ni mewn sefyllfa enbyd. All adrannau brys ddim gweithredu bellach ac rydyn ni’n achosi niwed i gleifion. Rhaid i ofal mewn coridorau ddod i ben!"
Aelod RCN Cymru
2. Sicrhau diogelwch cleifion
Os nad oes gan y staff nyrsio sy'n gofalu amdanom y sgiliau cywir, yr oruchwyliaeth glinigol, neu os nad oes ganddynt ddigon o amser i ofalu amdanom, gall hyn arwain at amrywiaeth o ganlyniadau negyddol gan gynnwys risg uwch o farwolaeth, heintiau, cwympiadau, briwiau pwysau a niwed o ganlyniad i wall meddyginiaeth, yn ogystal â dadhydradu ac annibyniaeth.
Does dim byd yn torri calon ein haelodau’n fwy na chael eu gorfodi i weithio mewn amgylcheddau lle na allant roi gofal rhagorol a lle nad yw cyflogwyr yn cymryd digon o gamau i leihau’r risg i ddiogelwch cleifion.
Gall Llywodraeth Cymru ddiogelu gofal cleifion drwy gymryd y camau a nodwyd gennym yma i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau - gan gynnwys GIG Cymru - yn cadw at y safonau uchaf posibl. Dylai canlyniadau arolygu'r gwasanaeth iechyd fod yn weladwy ac yn hygyrch i'r cyhoedd.
Mae angen i nyrsys ddiweddaru a datblygu eu sgiliau clinigol wrth i driniaeth a gwyddoniaeth nyrsio ddatblygu. Mae hyn yn ofynnol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel rhan o gofrestru proffesiynol ac mae ei angen i roi'r gofal gorau. Mae angen i GIG Cymru fuddsoddi mewn dysgu i sicrhau bod y gwasanaethau gorau yn cael eu darparu.

Beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud?
- Gweithredu amser gwarcheidiog ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (yn ogystal â hyfforddiant gorfodol) ar gyfer nyrsys cofrestredig yn GIG Cymru sy'n cyfateb i gontract meddygon.
- Deddfu i ymestyn Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i leoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl i gleifion mewnol - mae hyn yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bennu'r staff nyrsio sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel i gleifion.
- Deddfu i reoleiddio asiantaethau nyrsio i fel y mae asiantaethau meddygol yn cael eu rheoleiddio).
- Ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r Ddyletswydd Ansawdd i'w gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd roi ystyriaeth lawn i faterion sy'n ymwneud a'i gweithlu fel rhan o'u Datganiadau Ansawdd.
- Rhoi Arolygiaeth Iechyd Cymru ar sail statudol annibynnol gyda methodoleg arolygu glir wedi'i nodi yn y gyfraith. Dylai'r fethodoleg arolygu ystyried yn benodol y lefel o ddiogelwch y mae niferoedd a sgiliau staff nyrsio yn ei sicrhau.
"Mae nyrsio yn broffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth lle mae diogelwch yn hanfodol, ac mae’n cael ei siomi a’i danariannu gan y llywodraeth yn barhaus... Mae diogelwch cleifion yn cael ei beryglu, gall hyn ddim parhau."
Aelod RCN Cymru
3. Gofal nyrsio wrth wraidd y gymuned
Mae pwyslais ar symud gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol a chymunedol, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i atal salwch a chadw pobl gartref yn hirach.
Mae dwy ran o dair o'n haelodau yn nyrsio yn y gymuned.
Nyrsys Ardal, Nyrsys Practis, Nyrsys Plant, Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Bregusrwydd, nyrsys mewn cartrefi gofal – mae ein haelodau yn darparu'r glud anweladwy sy'n dod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd.
Mae Nyrsio cymunedol yn cefnogi pobl i fyw gartref, trwy reoli cyflyrau cronig a chefnogi pobl gyda phroblemau cymhleth yn y gymuned. Mae nyrsio yn sicrhau bod modd rhyddhau pobl o'r ysbyty ac atal derbyniadau diangen. Mae nyrsio cymunedol yn hanfodol i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn llwyddiannus ac mae angen buddsoddiad ac arweinyddiaeth strategol arno.
Mae Nyrsys cofrestredig yn rheoli darpariaeth gofal cymhleth o ansawdd uchel, gan leihau derbyniadau i'r ysbyty, a gwella iechyd a lles.
Mewn cartrefi gofal, efallai y bydd angen gofal nyrsio arbenigol ar rai preswylwyr, ond mae pob preswylydd yn elwa ar gyngor nyrsio i atal salwch ac i'w helpu i aros yn annibynnol. Mae presenoldeb nyrs gofrestredig mewn cartref gofal i bobl ag anghenion nyrsio yn hanfodol ar gyfer monitro ac asesu eu hiechyd a'u lles yn barhaus.
Mae natur gyfyngedig a thymor byr cyllid ar gyfer gofal nyrsio preswyl i bobl hŷn yng Nghymru yn argyfwng cenedlaethol. Mae llawer o gartrefi gofal bach yn ei chael hi'n anodd darparu gofal nyrsio priodol a diogel.
Mae hyn yn golygu bod pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen, eu trosglwyddo i leoliad heb ofal nyrsio priodol, neu'n cael eu cadw yn yr ysbyty yn ddiangen. Gallai arloesi gan Lywodraeth Cymru weld y gofal hwn yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol neu ddiwygiadau o ran y ffordd y telir amdano.

Beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud?
- Ymgynghori ar ffyrdd o ddiwygio cyllid gofal nyrsio preswyl gan gynnwys archwilio'r dewis o gomisiynu capasiti gofal nyrsio preswyl gan y GIG yn hytrach na bod cyllid yn dibynnu ar asesiad o gleifion unigol.
- Adolygu'r trefniadau contractio i sicrhau y gall nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal ddarparu gofal nyrsio i'w holl breswylwyr, p'un a yw'r preswylwyr yn derbyn Cyllid Gofal Iechyd parhaus ai peidio.
- Sicrhau bod sedd bwrpasol ar bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer uwch-nyrs.
- Sicrhau bod mynediad at addysg ôl-raddedig wedi'i chomisiynu, gan gynnwys Cymwysterau Ymarferydd Arbenigol, ar gyfer nyrsys sy'n gweithio yn y sector annibynnol.
- Sicrhau bod mynediad at lwybrau wedi'u comisiynu ar gyfer staff cymorth sy'n gweithio yn y sector annibynnol i gael mynediad at yrfaodd nyrsio cofrestredig.
- Datblygu methodoleg neu ganllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynllunio gweithlu nyrsys ymgynghorol i nodi'r niferoedd sydd eu hangen.
- Sicrhau bod sedd ffurfiol ar gyfer uwch-nyrs ar bob clwstwr gofal sylfaenol.
- Adolygu'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i sicrhau bod nyrsys yn cael yr un cyfleoedd â'u cydweithwyr meddygol a fferyllol i ddarparu gofal yn y gymuned.
"Buddsoddwch mewn nyrsio, da chi. Ystyriwch y darlun ehangach a sut mae’n effeithio ar y gymdeithas gyfan."
Aelod RCN Cymru
4. Mae angen nyrsys ar Gymru
Mae angen nyrsys ar Gymru. Mae’r proffesiwn nyrsio yn hanfodol i ofalu am bobl yn ddiogel ac yn effeithiol.
Heb ddigon o nyrsys gyda’r lefel gywir o sgiliau a phrofiad, mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod yn aneffeithiol ac yn anniogel.
Mae nyrsys yn gweithio mewn amgylcheddau anodd a heriol, ac mae prinder staff yn arwain at sefyllfaoedd lle mae gofal cleifion yn cael ei beryglu.
Gyda nyrsys GIG Cymru yn cael eu tandalu a'u hesggeuluso'n broffesiynol, mae llawer yn gorfod gadael y proffesiwn neu'n chwilio am gyfleoedd y tu allan i Gymru.
Disgwylir i nyrsys weithio oriau hir ac nid oes digon o gyfleoedd datblygu proffesiynol a chyfleoedd gyrfa ar eu cyfer. Nid yw'r cymorth a roddir i fyfyrwyr nyrsio yn ddigon i ddenu newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn a'u cadw.
Nid oes dim o hyn yn anochel. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cael cymorth gan GIG Cymru mewn ffyrdd a fyddai o fudd i'r proffesiwn nyrsio.
Er mwyn darparu gofal arbenigol, mae angen i ni ddatblygu nyrsys arbenigol. Er enghraifft, gall nyrsys iechyd meddwl plant a phobl ifanc arbenigol asesu, trin a chefnogi pobl ifanc agored i niwed yn y gymuned.
Mae angen i nyrsys arbenigol gael eu datblygu trwy brofiad ac addysg sy'n hygyrch ac sy'n cael eu hariannu.
Mae nyrsys arbenigol yn gallu darparu gofal mewn gwahanol ffyrdd, i ddiwallu anghenion pobl a'u cymunedau'n well, gan arwain yn y pen draw at ddarparu gwasanaethau sy'n fwy effeithiol gyda gwell canlyniadau clinigol.

Beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud?
- Dangos bod ceisiadau i weithio'n hyblyg yn cael eu cymeradwyo'n ddiofyn ar gyfer staff GIG Cymru.
- Sicrhau bod myfyrwyr nyrsio yn gallu adennill y costau llawn sy'n gysylltiedig â chyrchu lleoliadau.
- Sicrhau bod GIG Cymru yn rhoi lleoedd parcio am ddim i fyfyrwyr sydd ar leoliad.
- Gweithredu wythnos waith 36 awr ar gyfer staff nyrsio GIG Cymru.
- Sicrhau bod staff nyrsio GIG Cymru yn cael y budd y gall datganoli ei gyflawni ar gyfer canlyniad gwell o ran tâl, gostyngiad yn yr wythnos waith a thelerau ac amodau eraill.
- Cyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg nyrsio ôl-raddedig yng Nghymru sy'n gosod targedau clir ar gyfer comisiynu addysg.
- Sicrhau bod swydd wedi'i gwarantu i nyrsys sydd newydd gymhwyso, sydd wedi astudio yng Nghymru ac sydd eisiau gweithio yng Nghymru.
- Gweithredu Atodiad 20 yn llawn o ran y gweithlu nyrsio, gan sicrhau bod nyrsys cofrestredig yn gallu camu ymlaen o band 5 i fand 6 ar ôl cyfnod tiwtoriaeth ffurfiol i sicrhau cydraddoldeb proffesiynol â pharafeddygon a bydwragedd.
- Sicrhau bod y nifer optimaidd o swyddi nyrsys ymgynghorol ym mhob arbenigedd ar draws GIG Cymru i ddiwallu anghenion cleifion.
- Cynnig Bwrsariaeth GIG Cymru nad yw'n seiliedig ar brawf modd sy'n gyson â chostau byw ac sydd wedi'i haddasu yn ôl chwyddiant.
- Cynyddu addysg nyrsio a ddarperir yn Gymraeg, cyn ac ar ôl cofrestru.
"Mae angen buddsoddi mwy mewn gofal sylfaenol. Mae ysbytai acíwt ar gyfer pobl â phroblemau iechyd acíwt, nid cleifion sy’n aros am becynnau gofal."
Aelod RCN Cymru
Page last updated - 23/09/2025